The Bara Brith Theory of Commodification.

 

Llestri main.

 

Llefrith gynta?

 

Llian bwrdd.

 

Cym gacan bach eto.

Treiffl efo bechdan.

 

Dorra’i fwy i chdi, ma’r dorth yn ffresh heddiw.

 

Rhyw bethau felly sy’n codi i’r cof wrth ddidoli dalennau rhydd y llyfr ryseitiau a tharo ar ambell un gan Anti Gwen. Mae’r dair chwaer; Linor fy nain, Anti Magi, a hithau hefo’u gilydd rhwng y cloriau llac. Mae’r dair hefyd wedi marw. Anti Gwen oedd yr ieuengaf a’r olaf i fynd, mi ddaliodd dan ’leni.

 

O, Iesu. Rhaid mi adal drw’r un drws a des i siŵr!

 

Hi oedd un o’r unig rai ar ôl o’r to hwnnw a adawyd gan y gweddill i dacluso’r hen fyd, cadw’r cadeiriau a chloi’r drws. Y criw a oedd yn hen erioed i’m meddwl i ond rwbath yn eu cylch nhw’n awgrymu y bydda nhw gwmpas am byth, fel coed neu waliau cerrig.

 

Estyn y cadach na’i mi.

 

Mae bwrdd fy mhen i’n llenwi fesul dalen frau.

Yr hen bethau bach reis crispis ’na efo tjoclet ar eu pennau nhw, jam eirin, cwstard hallt (am mai felly oedd Yncl Elis wedi arfer hefo fo), pwdin clwt. Iau a grefi nionyn. Sosij sgwâr. Cacan riwbob.

 

Stynnwch ato fo.

 

Un o’r dalennau sydd wedi’i chrychu ac hefo’r ôl defnydd mwyaf arni ydi un ‘Bara Brith Anti Gwen’. Bara Brith y te pan oedd hi’n holides ac yn amser picio draw, Bara Brith cydymdeimlo, Bara Brith cymdogion sâl, Bara Brith ‘hwda dos a hwn hefo chdi’. Cacan oedd yn dal ysbryd ffeind a bywyd cyfa o wneud pethau er mwyn eraill, ynghyd â llond cwpan o gyranij a ballu.

 

Menyn, dim marj!

 

Os ydi bwyta bara cymun yn dod a rhywun yn nes at Iesu Grist wela i ddim pam na fedr bwyta Bara Brith ddod a rhywun yn nes at fodrybedd. Mae pob pryd o fewn cyrraedd, er na fyddai o’n blasu cweit yr un peth chwaith. Falla fod y popty’n gwneud gwahaniaeth, falla mai’r llwy i droi cymysgedd neu dymheredd dwylo ydi’r peth, ydi micro-hinsawdd cegin yn effeithio ar gynnyrch? Falla fod rhaid i rhywun dderbyn fod yna’m modd cael bob dim yn ôl, waeth pa mor galed mae nhw’n trio. Os nad ydi’r byd yr un un sut fedirth y Bara Brith fod?

 

Mae pethau’n symud ymlaen, yn newid. Faint o fynd sydd ar fara brith dyddia ’ma pan nad ydi rhywun mewn caffi Traditional Welsh neu de c’nebrwng? Tydi cacan gri chwaith ond yn dod yn ôl i’r byd pan mae hi’n ddydd Gŵyl Dewi neu’n ddiwrnod gosod hampyr croeso ymwelwyr i’r AirBnB. Diwadd pob traddodiad ydi unai diflannu neu ddod yn rhan o rwbath i’w farchnata a chael ei ddad-wreiddio. Cofiwch Dryweryn a Mari Lwyd, cwtsh a charthenni yn cael eu ffosileiddio ar fagnets a chlustogau, y Dic Penderyn Box Meal— ‘O Arglwydd, dyma fyrger.’

 

Mi fydd Bara Brith yn mynd yr un ffordd a bechdan famoth yn diwadd. Ond cyn hynny mi ddaw’n nwydd. Mi ddaw mewn pacad del efo cennin pedr a clyma’ Celtaidd arno fo fel bob dim arall. Pethau fu’n rhan o fywyd o ddydd i ddydd pobl a oedd yn crafu byw bellach yn drît te prynhawn i bobol fawr gachu a phobl sydd ddim, ond eisiau teimlo fel eu bod nhw. Blas ar Gymru yn groeso i fisitors a chacan a fyddai’n cael ei gwneud gan fodrybedd, rhyw dro, unwaith, yn dod y peth gosa at rwbath lleol mewn bwthyn gwag sydd ond ten minutes from the beach.

 

Following a traditional Welsh recipe.

 

Ond fydd o’m yn blasu’r un peth, na fydd?

 

                                                                           Faswn i’m balchach ag o.