Taro ar draws Mrs Thatcher yng Nghanol Caerdydd Fues i'n rhythu'n rhy hir arni, y farwnes nawr, y gwir anrhydeddus. Odd hi fynna, yng nghanol canol Caerdydd yn byta llygod ffyrnig gyda photel o Châteauneuf-du-Pape a sos brown. O'n i'n rhythu, a mae'n rhaid bod hi 'di sylwi pell cyn troi 'chos nath hi ddechre neud y stumie rhyfedda o fyta un o'r creaduried; wpo'i berfedd biws e mewn i'w cheg, a gadael i'r sudd lifo lawr ei gen, (fel 'se ti'n disgwyl gan dôri s'bo) ac odd hi wir yn joio, cymryd ei hamser fyd, mynd â thracht o win a choluddyn am yn ail tra bo'r llygoden druan dal i wichian. A falle dylwn i 'di mynd yr adeg yna wrth glywed y gwichian yn codi o wddf yr anifail, ond odd rhywbeth am y peth, rhywbeth nath fy hudo, a methes i fynd, dim ond sefyll a syllu ar ysbryd Margret Thatcher yn byta llygod ffyrnig yng nghanol Canol Caerdydd. Dyfan Lewis