nant cwmgelli

 

 

 

… ma cyhyre’r coese’n cofio’r troion a’r troade, y tyle a’r twyne’n gynt na’r meddwl, yn enwedig ar ôl ddeucen mlynedd bant … ma nhw’n ymateb i’r gwythienne glo pum troedfedd a whech troedfedd dim nepell odano, sy dros dro’n dala dan, richard a tomos matho a’u cendryd a’u cymrodyr yn garcus yn y tywyllwch, cyn gollwng nhw ar ôl eu shiffte trwy tenebrae diffodd y davy lamps a strepitws clatsho windin-gêr pwll minidd newidd, i wâc tshathre’r noson serennog «amser gynta ethoi na ‘yn nhad odd yn gofalu am y wech a wncwl ritshart odd yn y pump» ond sy’n catw john iwstus, tadcu tom ar ochor ei fam, a aned yn porth ia yn cornwal, weti’i foci gan dacu ar dalcen y ffas am byth ta brenin y tylwth teg mewn codwicodd rhedynnog difrycheulyd pangea

 

 

 

 

… a’r llif haenog hyn, weti’i ddoti a’i phlycu ar ben y creigie gwaddod, sy’n dala ar y tir uchel, dim ond tair milltir o’r doc ond ei linell olwg yn syth, ei nai bell, wyth oed heb eto ei eni, yn ercyd pêl rygbi, cŵen y gwair, a hela yscyfarnocod ar fferm lath mynyddgarnlwyd, sy’n clywed ond sy ffili gweld, odano gorwel graig trewyddfa, cerddorieth clanco’r gwithe fel clyche eclws yn cwnnu trw tarth y spelter, a sy’n clywed ond sy ffili gweld y pibydd anhysbys yn cwynganu a whare reels ar prynhawne sul yng ngardd cegin ddiwylied erbyn hyn cwmgelli house, yng ngole bythfyth euredd ddiwedd haf

 

 

 

 

… ac sydd trwy wead tanddaearol y gwythienne a’u cyntedde cysegredig «odd un wedi cal ei dorri mas yn y graig fel tŷ injin, y nall wetiny weti’i ddoti mewn arch» yn achosi’r dringo a dishgyn a mestyn a gatel ceure’r coese ac sy’n blaenori cemeg y synapse niwral a thynn trydanol gïe’r bysedd trwy rithie gofod ac amser, trwy cof, cof ffug, breuddwyd ddychmygol, cof breuddwydiol a ffug cof am freuddwyd … nhw sy’n achosi atgoffion llinellol tynn y gorwel ac yn achosi’r atgoffion annhalgrwn mewnol dienw, y pietas pell ac acos, i gael eu tapo mas â bys a’u hanadlu i’r pren rhychedig … ma rhai yn galw’r dilynianne dirgrynol canghennog sy’n deillo yn dôn, eraill yn galw nhw’n tiwn, alaw, cainc … eraill to yn galw nhw’n linelle, cysylltiade, gwythienne, llwybre, cadwyni, llednentydd, gewynne, tonne, tanne, rhydwelïe, llinach, firws, polymer, gwythienne

 

 

 

 

… ma bwclo aeonau-yn-ôl parhaol y ddwy wythïen hyn yn achosi ac yn cael eu ail adrodd yn nhroion a thwmbwls a scwte a gwibwrns a thawelon nant cwmgelli sy’n llifo’n ddi-baid, i ddechre’n groyw a gloyw, newydd cwmpo fel glaw atlantig, cyn cronhoi yn ei aberige brwynog, gwybedog ar gomin minidd bach a’r clâs i wetyn sisial ganu dros y carbon disglair odano mewn unsain a heteroffoni, weti’i adlewyrchu a’i weld mewn chiaroscuro, yn dryleu uwchben a du odano, i ymdroelli hibo bywyde’r cenedlaethe a fu a fydd «o’n i’n bratu amser lawr y cwm amser weles i llysŵen yn oifad yn y nant» tsha lawr i gwrdd, erbyn hyn yn frwnt a dan cwlfer, ei efaill nantrhydyfiliast, ac yna tawe, y môr hafren, yr iwerydd, môr y de, a phob môr sydd.

Ceri Rhys Matthews