Mynwentydd
Os pydru golud a grym rhyw gyfnod blaenorol sy’n rhoi i’n diwylliant poblogaidd heddiw ei leoliadau ystrydebol ar gyfer straeon ysbryd ac arswyd, yn fynwentydd, hen dai crand, hen ffatrïoedd a charchardai brics, a phethau felly, pa bydru fydd yn rhoi i ni yng Nghymru ein gofod Gothig newydd? Beth fydd yn cymryd lle’r fynwent ystrydebol fel locus terribilis, a chynefin ein hysbrydion? Ein byd presennol fydd hwnnw, wrth reswm, am taw deunydd ein heddiw fydd olion y dyfodol, ac mae’r adfeilio eisoes yn mynd rhagddo. Ein byd ni fydd gofod Gothig yr oes nesaf. Ond sut lun fydd ar y Gothig newydd os yw ein hoes ni eisoes yn faluriedig cyn y pydru a’r datod? Fydd ysbrydion yn cyniwair mewn hen feysydd parcio?
*
Pan awn i rywle fel Bae Caerdydd, gwelwn gymysgfa bur. Ymhlith ychydig adeiladau ac adfeilion yr Oes Ddiwydiannol, mae drysfa o fflatiau, ystadau tai, ystadau diwydiannol, tir gwag, parciau manwerthu, safleoedd adeiladu, swyddfeydd, a hewlydd llydan i nunlle. Amser a ddarniwyd a’i glytio’n ôl at ei gilydd ar hap.
Nid yw’r ddrysfa hon yn dwyn argraff y bobl sy’n ymwneud â hi. Mae rhywbeth rhyfedd o amhersonol (neu wrth-bersonol) am ardal y Bae, ac mae hynny ohoni sy’n agored i’r cyhoedd yn ymwneud â hamdden neu adloniant, gan amlaf. Dyma lefydd i basio trwyddynt, yn fwytai, campfeydd, parciau diffaith ac arddangosfeydd sy’n mawrygu’r Oes Ddiwydiannol (y dilëwyd ei holion gan mwyaf fan hyn). Gwerthir rhith-atgofion yma. Ni chewch aros, ond eto i gyd, annhebygol fyddech o dario: mae llygaid barcud y gwarchodluoedd diogelwch preifat ar y Bae o hyd, fel petai’r lle dan warchae, ac unwaith y bydd y bwytai ac ati’n dechrau cau, mae peth o naws y ghost town yno, a theimli di fel tresmaswr.
Yn y fath lefydd, cludwn hanes y tu fewn i ni ein hunain. Oherwydd ein bod yn ymwybodol bod rhywbeth yno o’r blaen, a bod pethau’n digwydd yno, ymdeimlwn â’u absenoldeb; dyna a deimlaf i yn y Bae, er i’r pethau coll gael eu dymchwel ymhell cyn fy ngeni. Caiff hanes ei hun ei fewnoli a’i wneud yn beth unigolyddol (ac unig) wrth i ni sefyll ynghanol rhithfeydd y Bae: rhith bywyd sefydlog; rhith cyflogaeth sefydlog; rhith y wladwriaeth les; rhith rhyddid; rhith y gorffennol; rhith y dyfodol.
Ond gellir rhannu hyd yn oed hanes toredig; gellir celcio’r malurion a’u hailosod yn llun styfnig. Mae Bae Caerdydd ar ddisberod; mae’n ddi-amser, bron. Anodd iawn yw dod ar draws dim yno sy’n cyfateb i iasau’r fynwent, ac nid yw ein diwylliant wedi adnabod yn y llefydd hyn ryw elfen Othig newydd eto. Mae angen sicrwydd amseryddol i ymglywed â phydru oes flaenorol.
Beth gellir ei ddweud am y Gothig ôl-ddiwydiannol? Mewn llefydd fel Bae Caerdydd, ni yw’r ysbrydion.
Morgan Owen