1. Gofyniad: Pa beth yw iaith?
 
Ateb: Yn y niwl uwchben sir Fôn,
aeth dwy awyren heibio’i gilydd heb gyffwrdd a heb weld
yn nallbwynt y radar. Dyma beth yw iaith.
 
Cyfres o gamddealltwriaethau.
 
Coesau yn taro byrddau
mewn stafelloedd tywyll.
 
Ystyriwch, pe byddem ni
yn dallt ein gilydd,
be fyddai ‘na ar ôl i’w ddweud?
 
2. Gofyniad: A yw hon yn iaith?
 
Ateb: Maen nhw’n dweud ei bod hi.
Nid pawb. Mae rhai’n eu gwadu,
ei galw’n sŵn, neu rywbeth marw.
 
Rwy’n casglu pethau marw. Amonit,
penglogau adar bach a brigau’r ynn.
Hen fatris, beiros gwag. Eu rhoi
mewn bocsys sgidiau dan y gwely,
yn fath o ofergoeliaeth.
 
3. Gofyniad: Beth ddaeth cyn iaith?
 
Ateb: Nid tawelwch, na, ond sŵn. Y ffasiwn ddwndwr,
dŵr yn llifo lawr ceunentydd, gwynt mewn ‘sgyfaint,
mellt ar y mynyddoedd a rhew yn gwichian.
Mewnian bwncath, chwiban pry, curiad
esgyll cudyll uwch ben cors a sisial sglefrod môr.
 
4. Gofyniad: Beth ddaw wedi iaith?
 
Ateb: Mae iaith, medde nhw, fel gwastraff niwclear.
Wedi’r adwaith gynta’, y creu mawr, y gwres a’r dinistr,
mae’r stwff sy’n gwrthod marw. Er ei gladdu’n ddwfn,
ei alltudio o wyneb haul a gwres y sêr, mae atomau’i fod yn dal i gnoni,
yn dal i droi a throsi, hyd yn oed o’u beddau dwfn
maen nhw’n gwgu, yn gwrthod pydru.


[1] cynhadledd iaith llambed 2020