Holide Mecyrs. Er gwaethaf clywed yr un hen stori anghofiwn ei bydd hi'n toddi, fel hufen ia ar ddiwrnod poeth. Nid hufen ia yw hufen ia ar ôl i fondiau cydlynol dorri. Maen nhw'n colli siâp, colli pwrpas, mae hufen ia yn newid yn hufen, ti'n gweld? Mae'n llithro ar fy llaw. Mae’r gronynnau yn ymddwyn yn wahanol hefyd, mae ganddynt le i symud o gwmpas, lle i newid cyfeiriad. Mae'r holide mecyrs yn dod tuag atom ar fympwyon tymhorol. Fel llanw mae’r awyr iach a’r golygfeydd yn tynnu nhw yn ôl ac ymlaen o’r ogof gyfyng. Atyniad sy’n adio pwysau trwm ar y gymdeithas. Rhaid rhoi’r gorau i’r cacennau a’r llefrith full fat, gwaith caled yw’r pwysau ecstra. Ond anodd yw anghofio boddhad cacen. Awel