Edenion coll Beth ddaeth gyntaf – arwyddion yntau geiriau? Deuoliaeth anhyblyg ddadl gyfarwydd ieithyddol ein cyfnod. Yr ateb, mae’n debyg, yw bod y ddau moddoldeb wedi datblygu’n gymedrol - llaw yn llaw, llais wrth lais. Heb y barnu na’r chystadlu, yr agweddau nawddoglyd, nag ymdrechion i drechu’r un neu’r llall. Ond yna daeth damcaniaeth esblygiad, yn sgil Darwiniaeth, a’r dybiaeth fod arwyddieithoedd yn israddol, gan ddarogan diffyg dealltwriaeth dynoliaeth, a dechreuai’r bwlch lledaenu, gan greu cymunedau dieithredig, drwgdybus o’i gilydd. Ond bu pocedi a chyfnodau lle bu rannu’r llwyfan cyfathrebu; yn wir, ar adegau, bu Arwyddieithoedd yn Lingua Francaoedd: o bobl frodorol y peithdiroedd, a’i AISL, i’r ynyswyr ‘cw a’i MVSL, cydraddoldeb oedd eu ‘normal’. Ond dymchwel a diflannu bu hanesion yr Edenion hynod hyn; ac yn weddillion eu rhoddion, daw’r ymdrechion modern am gyfiawnder, hawliau a heddwch i fodoli, ac addoli yn iaith ei hunaniaethau naturiol, cydraddol ym mhob cwr o’r Ddaear a thu hwnt. Sara Louise Wheeler