Eden ar Goll Yn nghrud Eden Ceid cyfathrebiad pur: Y Gwir Iaith, A phob sain a ddaeth o’r gwynt Rhwng dannedd, tafod a gwefys Adda O’i Gorff cyn Cyrff Yn farddoniaeth o awen anrheuliedig: Yn canu’n rhydd wrth ganu’n gaeth. Ar ȏl y Cwymp daeth ymwybyddiaeth A chyda hi’r deuoliaethau di-ri: Da/drwg Dyn/menyw Gwyn/du Trefn/anhrefn De/chwith. Ac yng nghynfyd chwedlonnol Enoch, Cyn y Dilyw a Thwr Babel, A oedd perthynas nes rhwng enwau A’r hyn yr oeddent yn ei ddynodi? Ond mae’r oes yna wedi hen fynd. Cydbwysedd ar goll: Benben ȃ’n gilydd; A phob gwrthgyferbyniad yn frwydr Yn hytrach na’n drafodaeth. Dafydd Reeves