Dod at y bwrdd Trefnwyd eu bod yn sgwrio’r bwrdd a thywod. Ei lyfnhau, rhag i ni weld olion ein gwaith cartref hyd y pren. Gadawyd iddynt ddewis farnish rhy dywyll. Ei daenu’n drwch, rhag i ddoe rhythu nôl drwy’r graen. Gofynnwyd iddynt drwsio’r cadeiriau. Eu tawelu, rhag i ni glywed y chwerthin fu’n gyfeiliant i bob gwich. Yn y stafell ddiarth hon, a finnau’n bihafio, dwi’n ysu i suddo’n is, a dianc eto, dan y bwrdd. Mari Sion