Creiriau Iaith

Dychmygwn y seiniau y mae bodau dynol wedi eu defnyddio ers y cyfnod cyn amseryddol ond sydd dal i fodoli rywsut yn ein bywydau, er datblygiad iaith a'n dealltwriaeth ohoni. Dyma greiriau iaith.

Perfformiad llafar sy'n cynnwys:

Peswch, chwerthin, y gwahanol fathau o "O" sy'n dynodi syndod, siom, rhwystredigaeth, pleser a llawenydd. Synnau ansicr, twtian, sugno aer drwy dannedd, pa!, pff!, ochenaid, y sŵn sy'n dod mas o dy geg wrth ymestyn cyhyrau dy ysgwyddau, sŵn taro gwefusau at ei gilydd wrth edrych ymlaen at rywbeth i fyta, sŵn crio, sŵn anadl gyflym ar ôl gweld neu glywed rhywbeth syfrdanol (yr hyn mae Saeson yn galw'n gasp), nid sŵn rhech am nad yw rhechfeydd yn iaith, sŵn tisian, sŵn griddfan, sŵn "M" wrth flasu rhywbeth neis, a'n bennaf oll sŵn meddwl a thawelwch a sŵn bylchau.